Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (259) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y cwestiwn.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd y cwestiwn.
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5715
Bethan Jenkins
William Graham
Lynne Neagle
William Powell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;
b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac
c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
16 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu polisïau Llywodraeth y DU ers 2010 yn hanfodol yn y gwaith o adfer economïau'r DU a Chymru;
2. Yn cydnabod ymhellach fod economi gynyddol gryf y DU wedi tanategu twf yn y sector preifat a chreu dros 2 filiwn o swyddi; a
3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith mai economi'r DU yw'r economi sy'n tyfu'n gyflymaf o blith gwledydd y G7.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y Gwelliant. Felly gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith bod treth incwm 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael ei dorri o £800, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU yn cynyddu'r trothwy lwfans personol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
9 |
32 |
46 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid inni fantoli'r cyfrifon yn deg,
gyda buddsoddiad mewn sgiliau uchel, economi carbon isel, dileu'r
diffyg yn y gyllideb strwythurol erbyn 2017-18, sicrhau bod y bobl
gyfoethocaf yn talu cyfran deg drwy gyflwyno treth plasty, ac
amddiffyn y mwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
41 |
46 |
Gwrthodwyd Gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.;
2. Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser.
3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5741 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i ddarparu addysg ôl-16;
2. Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i oedolion ar gyfer oedolion sydd am ddatblygu sgiliau newydd;
3. Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16 ar y sector addysg bellach; a
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael ei ymestyn i addysg bellach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
9 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
7 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.15
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.19
NDM3740 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Gofal Iechyd yng nghanolbarth
Cymru
Yr heriau sydd ynghlwm â darparu gofal iechyd yng nghefn
gwlad canolbarth Cymru mewn cyd-destun trawsffiniol a materion sy'n
ymwneud ag Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru.
9 Dadl Fer - Tynnwyd yn ôl
NDM5726 Leanne Wood (Canol De Cymru)
Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan
Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli i wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015